Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Yn bennaf oll mae’r FfLlRh yn offeryn cynllunio’r cwricwlwm sy’n helpu athrawon i ymgorffori llythrennedd a rhifedd wrth addysgu’r cwricwlwm.
Ein nod yw helpu athrawon i weld bod rôl bwysig ganddynt i’w chwarae o ran datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu dysgwyr.
Mae trefniadau cynllunio’r cwricwlwm gan bob ysgol ar hyn o bryd a bydd rhaid addasu’r rhain i gefnogi cynllunio trawsgwricwlaidd gan ddefnyddio’r FfLlRh. Er ein bod yn cydnabod y gall datblygu sgiliau i ddysgwyr iau yn arbennig fod yn fwy anghyson mae cynllunio trawsgwricwlaidd effeithiol ar gyfer sgiliau a fframwaith ar gyfer datblygiad parhaus yn bwysig i bob dysgwr.
Amcanion allweddol Amcanion allweddol y FfLlRh yw
- helpu athrawon pob pwnc i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm, ac mae wedi’i rannu’n grwpiau blwyddyn
- disgrifio’n fanwl gywir y disgwyliadau cenedlaethol blynyddol ar gyfer llythrennedd a rhifedd i ddysgwyr 5–14, a dangosyddion dilyniant i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- helpu i asesu cynnydd dysgwyr mewn llythrennedd a rhifedd a llunio adroddiadau blynyddol i rieni/ofalwyr yn seiliedig ar asesiadau athrawon fel bod athrawon, dysgwyr a rhieni/gofalwyr i gyd yn glir sut mae dysgwyr yn datblygu a beth yw eu camau nesaf.
Dyma gopi o'r ddolen i ddeunyddiau Llythrennedd 2014 Llywodraeth Cymru
http://learning.wales.gov.uk/resources/browse-all/nlnf/?lang=cy
Cysylltu
Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL
Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw
Rhif Ffôn: (01286) 674905
Rhif Ffacs: (01286) 676110
Ebost: cliciwch yma