HWB a HWB+
Beth yw Hwb a Hwb+?
HWB
Hwb yw'r llwyfan dysgu Cymru gyfan a fydd yn cynnal y casgliad cenedlaethol o adnoddau digidol o amrywiaeth eang o gyfranwyr.
Platfform dysgu ar-lein yw Hwb. Mae’n seiliedig ar dechnoleg Learning Possibilities, LP+, sydd wedi ennill gwobrau ar draws Ewrop.
Trwy ddefnyddio Hwb, bydd pob athro a dysgwr 3-19 yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyfoeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu sydd wedi’u caffael gan Lywodraeth Cymru.
Cliciwch yma i fynd i wefan HWB
HWB+
HWB+ yw'r broses o ddarparu llwyfan dysgu i bob ysgol yng Nghymru. Mae llwyfan dysgu yn gasgliad
o adnoddau a gwasanaethau ar-lein a all hwyluso dysgu digidol.
Bydd HWB+ yn cynnig y canlynol i bob ysgol – gwefan cyhoeddus, rhith-ystafell ddosbarth, cyhoeddiadau a digwyddiadau, blogiau, wicis a fforymau, rhyngwyneb personol i ddefnyddwyr yn ogystal â mynediad i Office 365.
Prif fantais y wefan yw ei gallu i hwyluso cydweithio o fewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol a hefyd rhwng y sefydliadau hyn.
Fe fydd disgyblion, athrawon, rhieni a llywodraethwyr yn medru manterisio ar y wefan.
Bellach mae disgyblion ac athrawon yn medru cael mynediad i’w gwaith o unrhyw gyfrifiadur, tabled neu ffôn, o unrhyw le, unrhyw bryd! Fe fydd cyswllt di-dor rhwng cartref ac ysgol.
Bydd Hwb yn cynnal ardaloedd gweithio cydweithredol a fydd yn hwyluso cymunedau dysgu proffesiynol ledled Cymru. Bydd deunyddiau a allai fod yn batrwm i eraill yn cael
eu nodi a’u rhannu ar draws Cymru gyfan.
Mewngofnodi i Hwb +
Cysylltu
Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL
Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw
Rhif Ffôn: (01286) 674905
Rhif Ffacs: (01286) 676110
Ebost: cliciwch yma