Ysgol Gynradd Llanrug

 

Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol Apple


homess10

 

Dosbarth Meithrin a Derbyn

plantCroeso i dudalen Dosbarth Meithrin a Derbyn Ysgol Gynradd Llanrug.

Dyma restr o’r staff sy’n gweithio yn yr Adran Feithrin a Derbyn.

Athrawes Derbyn : Mrs Llinos Haf Evans
Athrawes Meithrin : Kelly O'Donnell
Uwch Gymhorthydd Meithrin : Ms Kelly Louise Jones
Cymhorthydd Derbyn : Mrs Nia Edwards
Cymhorthydd Derbyn : Diane Hughes
Cymhorthydd Meithrin : Ffion Hughes
Hyfforddwr Cam Wrth Gam : Miss Jaqueline Pugh

 

Cliciwch yma i weld ein lluniau yn 2016 - 2017

Cliciwch yma i weld ein lluniau yn 2015 - 2016

Cliciwch yma i weld ein lluniau yn 2014 - 2015

 

17.03.17 Dysgu Am Bobl Sy'n Ein Helpu

Mae'r dosbarth Derbyn a Meithrin yn brysur iawn yn dysgu am bobl sy'n ein helpu yn ystod yr hanner tymor yma. Mae llawer o bobl am ddod i'r dosbarth i siarad gyda'r plant. Rydym wedi trefnu i ddynes lolipop, nyrs,plismon a phobl tan i ddod yn eu injan dan. Bydd gan y plant lawer o wybodaeth am y gwahanol swyddi sydd ar gael ac sut mae pawb yn ein helpu.Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd cysylltwch a'r ysgol.


04.01.17 Thema yr Hanner Tymor

Ein thema yr hanner tymor yma ydi pawennau, crafangau a wisgers. Byddwn yn dysgu am y gwahanol anifeiliaid a'r cynefinoedd y mae nhw'n byw ynddynt. Byddwn yn edrych ar sut i ofalu am yr anifeiliaid ac efallai yn cael ymwelydd neu ddau i ddod i'n gweld!

poster

13.04.16 Prosiect Blasu

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

poster

24.02.16 Tyllau, Gofodau a Chuddfannau

 

Thema am yr hanner tymor yma ydi Tyllau, Gofodau a Chuddfannau. Dyma fraslun o'r thema - cliciwch yma

Dewch i weld be mae'r plant yn ei wneud - cliciwch yma

 

 

 


plentyn

27.01.16 Deinosoriaid
Dewch i edrych beth mae'r plant wedi bod yn ei ddysgu yn ystod y thema deinosoriaid.

I weld mwy o luniau - cliciwch yma

 

 




poster

11.01.16 Brwydr y Dinosoriaid

 

Ein thema yr hanner tymor yma ydi deinasoriaid. Croeso i'r plant ddod a unrhyw beth ar y thema i mewn i ddangos. Fe fyddwn yn cael stomp deinasoriaid lle gaiff y plant gyfle i ysgrifennu gwahoddiau, creu bwydlen a perfformio dawns. Dyma fraslun o'r thema - cliciwch yma

poster

12.11.15 Tywynnu a Phelydru
Thema'r dosbarth Derbyn/Meithrin yr hanner tymor yma ydi 'Tywynnu a Phelydru'. Mae'r plant wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith ar noson tan gwyllt ac yn edrych ar bethau lliwgar a sgleiniog. Mae ganddom Ogof Tan Domen yn y dosbarth ble maent wrth eu boddau yn chwarae rol cymeriadau Gwlad y Rwla gyda'r bocs golau. Os oes ganddoch chi unrhyw bethau sgleiniog nad ydych eisiau mwyach byddwn yn ddiolchgar eu cael.

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

 




plant

23.10.15 Disgo Calan Gaeaf
Mae'r plant meithrin wedi bod yn brysur yn paratoi at Calan Gaeaf. Cafwyd disgo bach yn y dosbarth a cafodd pawb wisgo fyny. Cliciwch yma i weld y lluniau.

 

 

 




plant

13.10.15 Gweithgareddau'r Hydref
Rydym wedi creu Parc yn y dosbarth ble mae'r plant yn cael cyfle i ymchwilio i ddigwyddiadau yn yr Hydref... yr anifeiliaid sydd yn mynd i gysgu, beth sy'n digwydd i'r dail a pa ffrwythau a llysiau sy'n gorffen tyfu adeg yma o'r flwyddyn. Cliciwch yma i weld y lluniau.

 

 




plant

13.10.15 Targedau Dosbarth a Gwobreuo
rydym yn dilyn cynllun cymhelliant yn y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn gan ganolbwyntio ar wobreuo ymddygiad da. Mae'r plant yn cael cyfle i bledleisio ar ddechrau'r wythnos am wobr ond mae'n rhaid iddynt gadw at darged ee.. Rydwi yn gallu gwneud llond llaw neu Rydwi yn gallu taclus... Dyma rai lluniau ohonom yn mwynhau ein gwobr - cliciwch yma

 

 



plant

21.09.15 Dina y Deinosor
Yr wythnos yma (14-18 Medi) rydym wedi cael cyfarfod a Dina y ddraig holl wybodus. Cafodd y plant gyfle i'w chyfarch. Bydd Dina yn dod yn ol i'n gweld yn fuan. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Hefyd rydym wedi cychwyn dysgu adnabod llythrennau yn dilyn cynllun Tric a Chlic. Mae gan pob llythyren symudiad i helpu'r plant eu cofio. Cliciwch yma i weld y lluniau.

 



poster10.09.15
Thema y tymor yma fydd Bownsio a fe fyddwn yn canolbwyntio ar Ddatblygiad Corfforol ac yn galluogi'r plant i ddatblygu eu sgiliau symud manwl a bras trwy ystod o gemau a gweithgareddau.

 

 

 




10.09.15
Mae'r plant wedi ymgartrefu'n dda yn y dosbarth a llawer o fwrlwm wedi bod yn yr wythnos gyntaf.
dyma luniau ohonynt yn cael hwyl!!

13.03.15 Dosbarth Derbyn

Mae'r dosbarth Derbyn wedi bod yn canolbwyntio a'r stori cawr mwyaf Crand yn y dre. Rydym wedi cael cyfle i wneud gwaith mathemateg, iaith a gwaith creadigol.

Ar ol y Pasg fe fyddwn yn dechrau a'r thema newydd sef yr Ardd. rydym yn gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol a cawn gyfle i blannu hadau, llysiau ac ychydig o ffrwythau. Byddwn hefyd yn edrych a'r anifeliaid bychain sydd yn byw yn yr ardd.( gweler atodiad Pethau Bychain Pitw )


13.03.15 Dosbarth Meithrin

Mae'r dosbarth meithrin wedi bod y gwneud gwaith ar ailgylchu ac wedi bod yn darganfod sbwriel oamgylch yr ysgol ac yna yn ei ddidoli ar gyfer ei ail gylchu. Rydym wedi defnyddio rhai o'r bocsus i greu modelau 3D a'r plant wedi mwynhau bod yn greadigol.

Ar ol y Pasg fe fyddwn yn dechrau ar thema newydd sef yr Ardd. rydym yn gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol a cawn gyfle i blannu hadau, llysiau ac ychydig o ffrwythau. Byddwn hefyd yn edrych ar anifeliaid bychain sydd yn byw yn yr ardd.( gweler atodiad Pethau Bychain Pitw )

Tymor y Nadolig
Yn ystod tymor y Nadolig bu’r plant Meithrin/Derbyn yn brysur yn gwneud gwaith ar thema pan af i gysgu. Mae’r plant meithrin wedi body n canolbwyntio ar ddysgu cyfri, adnabod darnau Numicon, adnabod lliwiau, rhoi trefn ar faint gwrthrychau, adnabod anifeiliaid sy’n dod allan yn y nos, ysgrifennu enw a dilyn llond llaw.


Dyma ychydig luniau


Mae’r dosbath Derbyn wedi astudio llyfr Sgleinio’r Lleuad. Cawsom P.C Edwards ddod i mewn i ymweld yn son am bobl sy’n gweithio yn y nos.  Rydym wedi coginio bisgedi siap ser.


Cawsom llawer o hwyl yn cynhyrchu addurniadau Nadolig ac yn cymeryd rhan yn y cyngerdd.

 


 

Ac yn ystod Tymor y Gwanwyn ...
Ein thema y ½ tymor yma ydi Anifeiliaid. Byddwn yn ddiolchgar os fuasai unrhyw un o’r rhieni yn gallu cyfrannu mewn unrhyw ffordd. Mae’r Meithrin wedi dechrae gyda’r llyfr Annwyl Sw ac yn cael cyfarfod Martha, ci Mrs Thomas yr wythnos nesaf. Fe fydd Buddug cymydog i Mrs Evans A’r chi tywys Fraya yn dod i ymweld a’r ysgol i’r plant ddysgu sut mae Fraya y ci yn helpu Buddug.

 


Cysylltu

Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL

Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw

Rhif Ffôn: (01286) 674905

Rhif Ffacs: (01286) 676110

Ebost: cliciwch yma


Bookmark and Share

Newyddion