Ysgol Gynradd Llanrug

 

Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol Apple


homess1

 

Newyddion


Ffarwelio a Chroesawu
Chwith fu ffarwelio â Mr Robin Williams fel pennaeth yr ysgol ar ddiwedd tymor y Nadolig. Diolchwn iddo am ei wasanaeth dros y blynyddoedd a dymunwn ymddeoliad hapus iddo. Ond, dymunwn hefyd estyn croeso cynnes i Mrs Nia Puw fel pennaeth newydd yr ysgol a gobeithiwn y bydd yn hapus iawn yn ein cwmni. Dymuna Mrs Puw hefyd ddiolch yn fawr iawn am y croeso a’r gefnogaeth y mae hi wedi ei dderbyn gan y rhieni a’r plant ers iddi ddechrau yn ei swydd.


NSPCC

Daeth Mrs Rhian Jones draw o’r NSPCC ar ddechrau’r tymor i gynnal gweithdy a sgwrsio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 am y llinell gymorth ‘Childline’.


Twrnament Pêl-Rwyd

Mae genod blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer twrnament pêl-rwyd yr Urdd (ardal Arfon). Bydd y twrnament yn cael ei gynnal yn fuan yng nghanolfan chwaraeon Arfon yng Nghaernarfon a dymunwn yn dda i’r tîm yn y gystadleuaeth.


Sesiynau 5X60

Bydd Carwyn (Swyddog Addysg Gorfforol) yn dod draw i’r ysgol dros yr wythnosau nesaf i gynnal sesiynau 5X60 gyda chriw o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6. Bydd y sesiynau yn hyrwyddo chwaraeon fel rygbi a phêl-droed a bydd y plant yn sicr o’u mwynhau.


Jambori TAG

Mae blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn brysur hefyd yn ymarfer ar gyfer y Jambori TAG fydd yn cael ei gynnal yng nghanolfan denis Arfon yn fuan. Mae’r Jambori yn hyrwyddo’r siarter iaith ac mae’r plant wrth eu bodd yn canu’r caneuon.

 

Cliciwch yma i weld lluniau o'r Jambori!

21.09.15 Blwyddyn 1 a 2
Mae pythefnos wedi gwibio heibio ac erbyn hyn mae’r plant wedi setlo’n arbennig o dda. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 


01.05.15 Coed

Mae gan yr ysgol lawer o goed bach / planhigion i'w gwerthu. Bydd yna stondin fore Mawrth, Mai fed rhwng 9 a 10yb.
Pris £1 y goeden.


23.04.15 Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i'n disgyblion a phob lwc yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mai.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 


 

20.03.15 Yr Eclips

Roedd cyffro mawr yn yr ysgol yn ystod yr eclips!

Cliciwch yma i weld y lluniau

 

Cliciwch yma i weld y fideos

 


 

 

 

 

Yn ystod tymor y Gwanwyn bu disgyblion  blwyddyn 5 a 6 yn astudio’r thema ‘Ynni’.  Fel rhan o’r gwaith yma cawsant ymweld â Mynydd Gwefru er mwyn dysgu am y modd y mae ynni yn cael ei gynhyrchu yno.

 

Daeth Mr Dafydd Whiteside draw i’r ysgol i drafod Llanrug ddoe a heddiw gyda disgyblion blwyddyn 1 a 2.  Roedd pawb wrth eu bodd yn gweld hen luniau o’r pentref ac rydym yn diolch yn fawr iawn i Dafydd am ddod draw i’r ysgol atom.

 

Daeth Martin Thomas o gwmni ‘Mewn Cymeriad’ i’r ysgol i berfformio sioe am gymro yn ymfudo i Batagonia.  Cafodd holl ddisgyblion blwyddyn 3, 4, 5 a 6 bleser mawr o wylio’r sioe arbennig.

 

Llongyfarchiadau gwresog i Tomi Llywelyn.  Mae wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Gavroche yn sioe Les Miserables yng Nghaerdydd ym mis Hydref.

 

Llongyfarchiadau mawr i Caryl Davies a Ffion Jones am gwblhau eu cwrs ‘Cam Wrth Gam’ yn ddiweddar.  Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith yn adran y Cyfnod Sylfaen ac yn dymuno’n dda i’r ddwy i’r dyfodol.

 

Llongyfarchiadau i aelodau tîm rygbi blwyddyn 5 a 6 a fu’n cystadlu’n nghystadleuaeth rygbi’r urdd yng Nghaernarfon yn ddiweddar.  Cafwyd cystadleuaeth lwyddiannus gyda’r tîm yn cyrraedd y rownd gyn-derfynnol ac yn gorffen yn drydydd.

 

 

 

 

 

Cafodd blwyddyn 2 gyfle i ymweld â Thesco Caernarfon fel rhan o’r cynllun ‘O’r Fferm I’r Fforc’.  Roedd yn gyfle da iddynt weld sut mae’r bwyd yn cyrraedd eu bwrdd bwyd.  Cawsant groeso arbennig gan Anti Cheryl a Gavin ac roedd pawb wedi gwirioni pan gawsant ddewis llysiau ar gyfer coginio cawl.  Cawl blasus iawn ym marn pawb.

 

Roedd yr haul yn gwenu ar ddisgyblion blwyddyn 5 pan gawsant fynd i ganwio ar llyn Padarn.  Profiad gwerth chweil iddynt oll.

 

Mae plant y dosbarth derbyn yn astudio’r thema ‘Pethau Bychain’ ar y funud.  Fel rhan o’u gwaith daeth Enfys Jones draw i’r ysgol i ddangos crwban bach iddynt.  Roedd pawb wedi gwirioni ac rydym yn diolch yn fawr iawn iddi am ddod.

Llongyfarchiadau Mawr i dim rygbi Ysgol Gynradd Llanrug :

Pencampwyr Cwpan Eryri sef Cwpan Goffa Morgan Parry Clwb Rygbi Caernarfon.


Sialens Ddarllen
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol am gyflawni’r sialens ddarllen yn y llyfrgell.
Eleni mae 74 o ddisgyblion wedi cyflawni’r dasg yn llwyddiannus.


Ffair Grefftau Nadolig  Ysgol Gynradd Llanrug
Cyfle i rieni fynd am dro o amgylch y Ffair Grefftau, neu Sgwrs paned a theisen, tra bydd y disgyblion yn mwynhau’r ffilm.

Nos Iau Tachwedd 6ed 2014
Yr un noson am 6.30 o’r gloch Clwb Ffilmiau Ysgol Gynradd Llanrug
Cyfle i ddisgyblion Ysgol Gynradd Llanrug  gael mynd i weld ffilm gyfredol.
Fe fydd dewis :
Darllediad Sgrin 1 Dosbarth Ms Phillips ar gyfer  Cyfnod Sylfaen
neu Darllediad Sgrin 2 ar gyfer disgyblion 2 CA2


Sul y Cofio
Cofiwch am Sul y cofio eleni  Dathliad arbennig 100 mlynedd.
Fe fydd disgyblion Ysgol Gynradd Llanrug yn rhoddi teyrged arbennig i’r dynion ifanc o ardal Llanrug fu farw yn y rhyfel Mawr.
Byddwn yn darlledu’r gwasanaeth ar wefan yr ysgol.


Lansio Radio Ysgol Gynradd Llanrug
Tachwedd 11 2014
Fe fydd disgyblion Ysgol Gynradd Llanrug yn lansio Radio Ysgol Gynradd Llanrug fel rhan o broject Cymru FM.
Byddwn yn croesawy Marc Griffiths Cymru F.M. i’r ysgol i gynnal cwrs i ddisgyblion ac athrawon.


Bws Siopa : Cymdeithas Rhieni Ac Athrawon Ysgol Gynradd Llanrug
Mae ein bws siopa blynyddol yn am Lerpwl yn gadael yn brydlon am 7.30 y bore Dydd Sadwrn Tachwedd 15 o Ysgol Gynradd Llanrug.
Mae croeso i rieni barcio ar fuarth yr ysgol.


S4C yn ffilmio cyfres newydd ar gyfer CYW.
Yn ystod y flwyddyn fe fydd criw ffilmio CYW S4C yn ymudno gyda ni i gofnodi blwyddyn ym mywyd ysgol !
Fe fydd y tim gyda ni gyntaf yn ystod wythnos 17 – 21 Dachwedd.
Byd y gyfres  yn cael ei darlledu yn 2015.


Sioe Amgylcheddol ‘Y Brodyr Gregory’ ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen
Dydd Iau Tachwedd 20


Ffair Nadolig Ysgol Gynradd Llanrug
Nos Iau Tachwedd 27 2015

Dewch i weld Sion Corn yn yr ysgol.
Seindorf Arian Llanrug

Eco'r Wyddfa - Papur ein Bro

 

I gael y newyddion diweddaraf o bentrefi ein bro - cliciwch yma

 

 

 


Cysylltu

Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL

Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw

Rhif Ffôn: (01286) 674905

Rhif Ffacs: (01286) 676110

Ebost: cliciwch yma


Bookmark and Share

Newyddion