Siarter Iaith Ysgolion Cynradd Gwynedd
Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn ysgolion Gwynedd mae llawer o waith wed digwydd yn ein hysgol yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.
Nod y Siarter Iaith yn syml ydi arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Mewn gair, cael y plant i siarad Cymraeg.
Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfraniad gan bob aelod o gymuned yr ysgol- y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.
Mae rhaglen weithredu wedi ei llunio sydd rhaid i bob ysgol ei phasio. Llynedd roeddem yn gweithio tuag at y lefel gyntaf sef y wobr Efydd . Eleni rydym yn gweithio tuag at y wobr Arian.
Mae nifer o bethau sydd yn rhaid i bob ysgol ei wneud i basio’r gwobrau. Un ohonynt ydi llenwi holiadur yn dymhorol yn cofnodi defnydd cymdeithasol y plant o’r Gymraeg yn yr ysgol ar lawr y dosbarth, ar yr iard ac o fewn y gymuned. Rhoddir cyfle hefyd i’r plant nodi pa mor gyfforddus ydynt wrth weithio, pa mor hyderus ydynt wrth siarad Cymraeg a pha mor bwysig ydi’r Gymraeg iddynt. Bydd pob disgybl yn nodi eu hatebion ar raddfa o ddim i ddeg. Bydd atebion yn cael eu troi i ddata ac yna bydd y data yn creu gwaelodlin i’n ysgol allu lluniod targedau ar gyfer y dyfodol. Cesglir hefyd llawer o dystioaleth o wahanol weithgareddau sydd yn mynd ymlaen yn yr ysgol i hybu’r Gymraeg. Gweler y lluniau dosbarth.
Rydym yn sylweddoli fod pentref Llanrug yn le Cymreigaidd iawn a body rhan helaeth o’r plant yn siarad Cymraeg. Rhaid i ni gyd wneud ein rhan i sicrhau fod hyn yn parahau yn y dyfodol.
Os oes ganddoch syniadau neu yn fodlon helpu dewch i mewn i siarad gyda ni yn yr ysgol.
Diolch
Mrs Llinos Evans
Athrawes Cyfrifol am y Siarter Iaith
Tachwedd 2016 Mae'r ysgol wedi bod yn llwyddiannus yn cyrraedd y wobr aur. Diolch am eich holl waith caled adref hefyd. Cofiwch fod yn bosibl gwylio llawer o raglenni Cymraeg ar safle we S4C unrhyw adeg. Mae rhaglenni ar gyfer bob oed arno. Rydym wedi bod yn gwrando ar lawer iawn o gerddoriaeth Cymraeg yn y dosbarthiadau ac yn y neuadd. Mae llawer o gerddoriaeth ar gael dros y we. Rydym yn parahau i geisio cynyddu nifer y plant sydd yn gwylio rhaglenni Cymraeg ac sy'n gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg dros yr flwyddyn neasf. Diolch am eich cydweithrediad. |
Stondin Ffair Haf 11/6/16 Bu plant y cyngor ysgol yn brysur gyda stondin yn y Ffair Haf yn cael pobl i ddyfalu beth oedd enw'r ddraig goch. Hefyd bu'r plant yn rahnnu pamffledi am y Siarter Iaith ac yn siarad gyda rhieni a pobl y pentref am ei bwysigrwydd. Mared enillodd y dderaig a'i enw oedd Dafydd! |
Pamffled Siarter Iaith I weld y lluniau - cliciwch yma |
Gwasanaeth Siarter Iaith
I weld y lluniau - cliciwch yma / I weld geiriau Anthem y Siarter Iaith - cliciwch yma / I glywed Anthem y Siarter Iaith - cliciwch yma |
Disgo Santes Dwynwen
I weld y lluniau - cliciwch yma |
Jambori TAG
|
Noson Llythrennedd
I weld y lluniau - cliciwch yma |
Shwmae Sumae
I weld y lluniau - cliciwch yma |
Cysylltu
Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL
Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw
Rhif Ffôn: (01286) 674905
Rhif Ffacs: (01286) 676110
Ebost: cliciwch yma