Yr Urdd
![]() |
Urdd Gobaith Cymru |
Gweithgareddau Urdd Ysgol Gynradd Llanrug :
Flickr Ysgol Gynradd Llanrug - cliciwch yma
Llangrannog - cliciwch yma
Glanllyn - cliciwch yma
Caerdydd - cliciwch yma
Beth yw’r Urdd?
Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc
- Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd.
- Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Pwy sy’n aelodau o’r Urdd?
- Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o’r Urdd.
- Mae un rhan o dair o’r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau.
- Mae 30% o’r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr
- Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
- Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother!
- Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.
Beth sydd gan yr Urdd i’w gynnig i ti...?
- Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol.
- Cynhelir clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd.
- Pob math o weithgaredd o hwylio, canwio a dringo yng Nglan-llyn, i wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, neu ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd
- Rhywbeth at ddant bawb!
- Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau... mae’r dewis yn ddiddiwedd!
- Cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru
- Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon
- Gwyl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw hon
- Cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni
- Mae 15,000 yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn.
- Beth am ddarllen y straeon diddorol neu roi cynnig ar y cystadlaethau sydd yn Cip, iaw! a Bore Da?
- Mae cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg
- Mae 10,000 o gylchgronau yn cyrraedd ysgolion a chartrefi plant Cymru bob mis.
- Yr Urdd sydd wedi bod yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru i’r Byd ers 1925.
- Beth am fynd dramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol?
- Darganfyddwch ddiwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.
Cysylltu
Ysgol Gynradd Llanrug
Ffordd Llanberis,
Llanrug,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4AL
Pennaeth:
Nia Llewelyn Puw
Rhif Ffôn: (01286) 674905
Rhif Ffacs: (01286) 676110
Ebost: cliciwch yma