Cartref > Disgyblion > Clybiau Ar Ol Ysgol

Clybiau Ar Ol Ysgol


Allgyrsiol / Clybiau

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn cynnwys pel-droed, hoci, criced, pel-rwyd, athletau, dringo a chyfeiriannu ac yn cymryd rhan mewn toreth o gystadlaethau chwaraeon yr URDD, yn y dalgylch ac yn sirol. Trefnir Mabolgampau yr ysgol yn flynyddol. Cynhelir Clwb Chwaraeon ar ol ysgol gan yr URDD yn wythynosol ar gyfer blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Cynhelir Clwb pel-droed Nathan Craig ar ol ysgol yn achlysurol ar gyfer Blynyddoedd 3, 4, 5, a 6.

Trefnir i nifer o ymwelwyr ymweld a’r ysgol yn dymhorol. Trefnir ymweliad ar gyfer sbarduno thema’r dosbarth yn ogystal er mwyn cyfoethogi profidau ein dysgwyr. Dyma rai enghreifftiau pellach.  

  • Gemau yn erbyn ysgolion eraill e.e. pel-droed, pel-rwyd, rygbi, hoci, criced, athletau’r Urdd, cyfeiriannu, wal ddringo, gala nofio,

  • Hwylio ar lyn Padarn yn Arete, Llanrug/ teithiau cerdded lleol/ teithiau cerdded i barc Cwm y Glo.

  • Helpu’r gymuned drwy gymryd rhan mewn gwasanaethau a chyngherddau.

  • Gwneud defnydd o’r amgylchedd drwy brofiadau gwaith maes.

  • Gweithdai cerddorol neu greadigol

  • Ymweld â theatrau, safleoedd hanesyddol. Pantomein Nadolig. 

  • Sgyrsiau gan ymwelwyr.

  • Ffair lyfrau

  • Cyflwyniadau mewn Cymeriad yn neuadd yr ysgol i gefnogi thema’r dosbarth

  • Y Ffair Haf/Taith Noddedig

  • Cyd-weithio ag ysgolion eraill er mwyn rhannu arbenigedd ac arfer dda.

  • Clybiau digidol/ celf

  • Ymgyrchoedd Cerdded i’r ysgol / Ymgyrchoedd Beicio a Sgwtera i’r ysgol

  • Bythefnos o ymgyrchoedd Iechyd a Lles gyda llawer o ymwelwyr yn dod i’r ysgol

  • Gweler Trydar Ysgol Llanrug @YsgolGynLlanrug