Cartref > Disgyblion > Llysgenhadon Addysg Gorfforol

Llysgenhadon Addysg Gorfforol


Yn Ysgol Llanrug, mae addysg gorfforol yn ran creiddiol a hollbwysig o’n Cwricwlwm sy’n hanfodol i les ein dysgwyr. Mae gwersi Addysg Gorfforol wedi’u hintegreiddio i’r cwricwlwm yn wythnosol ac anogir ein disgyblion i ddatblygu sgiliau corfforol a ffitrwydd. Bydd dysgwyr yn meithrin hyder wrth ymateb i weithgarwch corfforol creadigol, cystadleuol, ffitrwydd a lles, awyr agored a datrys problemau. Rydym hefyd yn annog iddynt feithrin ymdeimlad o fwynhad, meithrin yr arfer o fod yn aelod o dimau bach ac i feithrin cyfle cyfartal – gan ofalu fod yr egwyddor yn bodoli ymhob agwedd o Addysg Gorfforol. Byddent yn ddod yn fwy fwy ymwybodol o ofod, cydbwysedd, datblygu sgiliau symudol, cynnal a chynyddu symudiadau a hyblygrwydd corfforol, datblygu stamina a chryfder - yn enwedig cyhyrau'r galon a'r esgyrn a datblygu'r gallu i gyfleu syniadau trwy osgo'r corff. Byddwn hefyd yn annog gwerthfawrogiad o’r syniad 'chwarae'n deg' wrth gystadlu a meithrin agwedd iach tuag at ennill a cholli. Byddwn yn datblygu'r gallu yn ein dysgwyr i werthfawrogi nodweddion esthetig symudiadau, i ddatblygu awydd a gwerth dyfalbarhad i geisio llwyddiant a datblygu hunan hyder wrth ddeall cryfderau neu fwysyedd i’w datblygu ymhellach. Drwyddi draw, byddwn yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymarfer corfforol er mwyn byw bywyd iach.

Yn ogystal â gwersi addysg gorfforol, ymdrechir hefyd i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, megis gemau pêl-droed, sialensau sgipio, clwb Dal i Fynd ar y trac rhedeg, hoci, pêl rwyd, gweithgareddau awyr agored, cyfeiriannu, a chlybiau chwaraeon amrywiol. 

Drwy amrywiol brofiadau corfforol, gobeithir gosod sylfaen i fywyd iach a gweithgar a dysgu pob plentyn sut i gymryd rhan a mwynhau gweithgareddau corfforol. Mae aelod o’r staff wedi derbyn hyfforddiant i ddatblygu cyfeiriannu ac mae map cyfeiriannu wedi ei lunio ar gyfer yr ysgol er mwyn datblygu gweithgareddau awyr agored a datrys problemau. 

Mae ein Llysgenhadon Addysg Gorfforol yn arwain ac yn cynorthwyo gyda gwahanol ddigwyddiadau / chwaraeon e.e. Mabolgampau yr Ysgol.

Gweithgareddau'r Llysgenhadon Addysg Gorfforol