Cartref > Disgyblion > Siarter Iaith

Siarter Iaith


Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn ysgolion Gwynedd mae llawer o waith wedi digwydd yn ein hysgol yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.

Nod y Siarter Iaith yn syml ydi arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Mewn gair, cael y plant i siarad Cymraeg.

Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfraniad gan bob aelod o gymuned yr ysgol- y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.