Llesiant
Mae gennym amrywiaeth o raglenni ymyrraeth llesiant yn cael eu darparu gan staff sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol a phenodol.
Yn ogystal, mae Madi’r Ci Ysgol yn gi therapi dan hyfforddiant ac yn derbyn hyfforddiant cyson o dan arweiniad 'Canine Assisted Learning.' Mae 5 aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi Madi sy’n galluogi i Madi fod yn ran ganolog o raglenni cymell ac annog o fewn yr ysgol, yn cefnogi dysgwyr penodol gydag amrywiaeth o anghenion, yn ffrind ffyddlon ac yn llwyddo i gymell plant i fwynhau bywyd ysgol o ddydd i ddydd.
Rydym hefyd yn hywryddo agweddau o strategaeth Pum Ffordd at Les (Bwrdd Iechyd Cymru) ar draws yr ysgol gan hyrwyddo gweithgareddau bywiog, bod yn sylwgar, rhoi, cysylltu a dal ati i ddysgu.
Trefnir nifer o ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo’r agweddau hyn megis Sialens Ras am Fywyd blynyddol yr ysgol ar gyfer y plant, gan gasglu arian at Ymchwil i Gancr. Trefnir Ras Llanrug gan staff yr ysgol mewn partneriaeth â Ffrindiau’r Ysgol a Rhedwyr Eryri yn flynyddol ar gyfer plant ac oedolion.
Cynhelir Pythefnos Iechyd, Lles ac Eco yn flynyddol yn yr ysgol a bydd nifer helaeth o arbenigwyr yn darparu profiadau corfforol ac egnïol i’n disgyblion ar draws yr ysgol megis pêl-fasged, prynhawn chwaraeon, prynhawn o feicio, taith gerdded i’r parc i gasglu sbwriel, ioga, taith gerdded i barc egnïol Cwm y Glo, gweithdy Adweitheg, diwrnod di-sgrin, clwb dawnsio, blasu bwyd i enwi ond rhai.