Cartref > Newyddion > Ffair Ymyraethau

Ffair Ymyraethau


Diolch yn fawr iawn i’r rhai ohonoch yn rieni a Llywodraethwyr a ddaeth i’r Ffair Ymyraethau. Roedd yn gyfle gwych i dderbyn arweiniad a chyngor gan staff yr ysgol yn athrawon a chymorthyddion ar yr ymyraethau penodol a ddarperir gan yr ysgol ar gyfer cefnogi eich plentyn/plant. Cafwyd cyflwyniadau amrywiol o Makaton, Talkabout, Elsa, Bysedd Prysur, Tric a Chlic, Safmeds, Power Of, Gem 24, Trugs, Numicon, Teithiau Iachus a lles i enwi rhai. Hyderwn fod y cyflwyniadau wedi bod o gymorth mawr i chi fod yn ymwybodol o’r arlwy amrywiol a phenodol yr ydym yn ei gynnig o fewn Ysgol Gynradd Llanrug. 

Pob Eitem Newyddion